Picdeer logo Browse Instagram content with Picdeer

#swanseawelshcentre

Posts tagged as #swanseawelshcentre on Instagram

9 Posts

Ydy dy wep di ar y wal?! Wrth adnewyddu’r bar/ystafell waelod penderfynwyd creu wal o wynebau Tŷ Tawe i ddathlu’r prysurdeb a’r bobl sy’n creu’r gymuned a’r digwyddiadau Cymraeg hynny sy’n ein tynnu ynghyd yn ein Canolfan. Pan fyddi yno tro nesa’ cymer sbec i weld os wyt ti yno, neu sicrha y byddi yno pan awn ati i ychwanegu haen arall o luniau’n gofnod! #tytawe #canolfangymraeg #canolfangymraegabertawe #walweps #wepwal #adnewyddu #murluniau #oriel #cymuned #cymunedgymraeg #abertawe #stori #hanes #digwyddiadau #cofnod #pobl #swansea #swanseawelshcentre #dysgucymraeg #cortytawe #tyrfetawe #siopsiarad #sioptytawe #gwersicymraeg #cyrfemawrtyrfetawe
Ôl-fflach i noson Tyrfe Tawe arbennig yng nghwmni Tecwyn Ifan, Mai 2016. Yr ystafell yn orlawn, y gwrandawiad yn astud a’r awyrgylch yn un cynnes, braf a Chymraeg. #tytawe #canolfangymraegabertawe #canolfangymraeg #cymunedgymraeg #cymuned #abertawe #tyrfetawe #cymraeg #barnoswener #swansea #swanseawelshcentre #cerddoriaethfyw #acwstig #dysgucymraeg #inca #ydrefwen #efailwen
‘Allwedd Calon Cwrw Da’ medden nhw, a be’n well ar nos Wener na dewis o gwrw gorau dau fragdy lleol i dwymo’r galon! Cyrfe’r bragdy @tomoswatkinbrewery o Lansamlet sydd gennym yn bennaf yn y bar ac ambell botel gan @gowerbrewery o’r Gŵyr. Cyrfe penigamp - o’r rhai mwya’ golau hyd y rhai tywyll! Beth am ddod i roi cynnig ar un ryw nos Wener neu ar ddiwrnod gêm ryngwladol? #tytawe #canolfangymraeg #swanseawelshcentre #cwrw #abertawe #bragdy #tomoswatkin #peint #gowerbrewery #cwrwlleol #cwrwcymreig #torrisyched #llymaid #potelogwrw #allweddcaloncwrwda #iechydda #dysgucymraeg #sgwrsgymraeg #swansea #barnoswener
Englyn gan y Prifardd Emyr Lewis i wirfoddolwyr Canolfan Tŷ Tawe. Mae Canolfan fel Tŷ Tawe yn dibynnu’n helaeth ar garedigrwydd ac oriau gwirfoddolwyr - o beintio’r muriau a gwaith adeiladu i weini ☕️ a 🍻🍷🥂 yn y Siop Siarad, caffi CYD a’r nosweithiau yn y bar. #tytawe #canolfantytawe #canolfangymraeg #abertawe #gwirfoddoli #gwirfoddolwyr #cymry #cymraeg #dysgucymraeg #dysgucymraegabertawe #paned #peint #cwrw #swanseawelshcentre #prifardd #englyn #diolch #cymuned #cymunedgymraeg
Ar noson braf o haf, mi gafodd @meigwynedd groeso cynnes iawn @tytawe neithiwr. Gwych oedd clywed fersiynau acwstig o’i ganeuon, yr hen a’r newydd, a phawb yn gadael dan wenu. Noson Tyrfe Tawe i’w chofio! #tytawe #canolfangymraeg #canolfangymraegabertawe #dysgucymraeg #cerddoriaeth #cerddoriaethfyw #nosonacwstig #abertawe #cymraeg #swansea #swanseawelshcentre
Yr annwyl @meigwynedd a’r hyfryd ‘Codi Cestyll’ yn swyno’r dorf gynnar ar ddechrau’r set heno yn noson Tyrfe Tawe. #tytawe #abertawe #tyrfe #tyrfetawe #canolfangymraeg #gig #gigcymraeg #swansea #swanseawelshcentre #meigwynedd  #cymraeg
Siop Tŷ Tawe, Siop Gymraeg Abertawe ym mlaen y Ganolfan sy’n gwerthu gardiau cyfarch, llyfrau i bawb o bob oed, anrhegion ar gyfer pob achlysur, tegannau plant, nwyddau cartref, gemwaith, printiau lliwgar, crysau-t a llawer mwy. Oriau agor 10-5 Llun - Gwener, 10-3.30 ar ddyddiau Sadwrn.  #tytawe #dysgucymraeg #prifysgolabertawe #abertawe #swansea #cymraeg #canolfangymraeg #swanseawelshcentre #craft #crefftaucymraeg #crefftaucymreig
Y gwaith ar waith!! Gwirfoddolwyr crefftus a gweithgar.  The transformation team! #tytawe #canolfangymraeg #cymryabertawe #trawsnewid #cymraeg #cymry #swanseawelshcentre #dysgucymraeg #abertawe #swansea #abertaweambyth #croeso #gwaithtîm
4 blynedd yn ôl fe aeth criw o wirfoddolwyr ati i drawsnewid yr ystafell yng nghefn y llawr isa’ yn @tytawe a’i throi yn ystafell aml-bwrpas. Dyma luniau’r ystafell cyn y trawsnewid a’r prif benseiri, John a Gareth ynghanol yr ymgynghori ar y cynlluniau.  4 years ago a group of volunteers decided to try and transform the downstairs meeting room into a multi purpose venue. #tytawe #canolfangymraeg #cymryabertawe #dysgucymraeg #cymraeg #trawsnewid #gwirfoddoli #gwirfoddolwyr #gwirfoddolwyrygymraeg #abertawe #swansea #swanseawelshcentre